SL(5) 462 – Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion yn neddfwriaeth Cymru sy'n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn sicrhau bod y llyfr statud yng Nghymru yn parhau i fod yn gyfredol ac yn weithredol wedi i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Er enghraifft, mae'r Rheoliadau hyn:

·         yn diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2019, fel na fydd person yn cyflawni trosedd sy'n ymwneud â marchnata cymysgeddau o wahanol rywogaethau o ffrwythau a llysiau, mewn amgylchiadau penodol;

·         yn diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 i ddileu cyfeiriadau at gyfraith yr UE na fydd yn bodoli mwyach ar ôl ymadael â’r UE; ac

·         yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, fel na fydd person yn cyflawni trosedd sy'n ymwneud â labelu cig sy'n deillio o anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio yn fyw i Gymru, mewn amgylchiadau penodol.

Gweithdrefn

Gwneud cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3 – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Gwnaed y Rheoliadau hyn ar 23 Hydref 2019 ac maent yn ddarostyngedig i'r weithdrefn 'gwneud cadarnhaol' frys. Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, roedd Gweinidogion Cymru o'r farn bod angen defnyddio'r weithdrefn frys oherwydd bod disgwyl mai'r diwrnod ymadael fyddai 31 Hydref 2019.

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

O dan adran 2 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

5 Tachwedd 2019